Cyflwyniad

Mae'r we-blatfform yma yn adnodd addysgol sy'n cynnwys gwersi ar waith penodol a chyfoeth o adnoddau y mae'n bosib ac y dylid eu haddasu gan ddisgyblion, athrawon ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn casglu mwy o wybodaeth am un o gymeriadau enwocaf llenyddiaeth yng Nghymru – T. Llew Jones. Ei bwrpas yw sicrhau etifeddiaeth i flwyddyn dathlu canmlwyddiant ei eni yn Sir Gaerfyrddin (1915-2015).

Cefndir

Roedd Thomas Llewelyn Jones (11eg o Hydref 1915 – 9fed o Ionawr 2009) yn awdur Cymraeg, gyda dros hanner canrif o yrfa ym myd ysgrifennu. Ef oedd un o’r awduron llyfrau plant mwyaf poblogaidd a chynhyrchiol yn y Gymraeg. Roedd yn cael ei adnabod fel T. Llew Jones. Dewiswch eicon isod er mwyn darganfod mwy.