1915
11 Hydref: Ganwyd Thomas Llewelyn Jones yn 1 Bwlch Melyn, Pentre-cwrt ger Llandysul yn sir Gaerfyrddin.
1920
Dechreuodd fynychu Ysgol Capel Mair, Pentre-cwrt.
Roedd ef a’i deulu’n byw yn Iet-wen, Pentre-cwrt.
1923
Penderfynodd y teulu i symud o Bentre-cwrt i Saron.
1926
Ganed brawd i T. Llew Jones, sef Edwin Sieffre.
1928
Dechreuodd astudio yn Ysgol Ramadeg Llandysul.
1932
Yn 16 oed, gadawodd Ysgol Ramadeg Llandysul a dychwelyd i’w hen ysgol, Ysgol Capel Mair, Pentre-cwrt fel ‘disgybl-athro’ tra oedd yn disgwyl cael mynediad i Goleg Eglwysig yng Nghaerfyrddin.
1933
2 Ebrill: Ganed chwaer iddo – Megan Eluned.
1940
Priododd T. Llew â Margaret Enidwen Jones.
Cafodd ei alw i wasanaethu ei wlad ar ddydd ei briodas a bu’n rhan o’r Llu Awyr tan 1945.
1940au
Yn ystod y 40au, ganed tri o blant – Eira, Emyr ac Iolo
1947
Medi: Dechreuodd ar ei gwrs athro yng Ngholeg y Waun, Caerdydd. Bu yno am dri mis ar ddeg.
1950
Awst: Daeth i’r brig yng nghystadleuaeth yr englyn yn Eisteddfod Genedlaethol Caerffili. Cafwyd cystadleuaeth frwd lle mentrodd 347 o bobl i ysgrifennu englynion.
1951
8 Ionawr: Cychwynnodd ar ei waith fel ysgolfeistr yn Ysgol Tre-groes, Llandysul.
Awst: Roedd ymhlith yr enillwyr eto yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst. Ef oedd y buddugol am gasgliad o benillion gwreiddiol ac enillodd Wobr Goffa Eifionydd am ‘Gasgliad o Englynion Beirdd Gwlad yr Ugeinfed Ganrif’.
31 Awst: Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf oll y Pwyllgor Llyfrau Cymraeg, pwyllgor y bu T. Llew yn rhan annatod ohono. Roedd hwn yn bwysig yn hanes datblygiad llenyddiaeth Gymraeg i blant gan ei fod wedi ysgogi awduron fel T. Llew Jones i ysgrifennu llyfrau gwreiddiol yn benodol i blant.
1955
Bu T. Llew yn paratoi sgriptiau ar gyfer y BBC.
Ysgrifennodd y gyfres ‘Llyfrau Darllen Newydd’ a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion. Cafodd y rhain eu hailargraffu rhwng 1994-1998.
1957
Golygodd gyfrol o farddoniaeth i blant sef ‘Cerddi Gwlad ac Ysgol’.
31 Rhagfyr: Gorffennodd fel athro yn Ysgol Tre-groes, Llandysul.
1958
1 Ionawr: Daeth yn brifathro ar Ysgol Coed-y-bryn ger Llandysul.
Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy.
Cyhoeddwyd nofel ‘Trysor Plasywernen’, nofel ar gyfer cystadleuaeth arbennig dan nawdd Awdurdod Addysg Sir Aberteifi. Daeth yn gydradd fuddugol. Bu hon yn nofel boblogaidd iawn dros y blynyddoedd.
Cyhoeddodd ‘Llyfr Anrheg’ ar y cyd â Dilwen M. Evans.
Ymddangosodd casgliad o straeon gwerin gan T. Llew ei hun - ‘Merched y Môr’ a ‘Chwedlau Eraill’.
1959
Enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon.
1960
Cyhoeddwyd nofel ‘Trysor y Môr-ladron’ gan Lyfrau’r Dryw. Mae hon wedi’i hailargraffu sawl gwaith ers hynny gan Wasg Gomer.
Cyhoeddwyd cyfrol o straeon byrion ‘Modrwy Aur y Bwda a Storiau Eraill’ gan Wasg Gomer.
Cyhoeddwyd addasiad o’r ddrama radio enwog ‘Tanglemane’ gan Tudur Watkins, sef ‘Y Merlyn Du’ gan Wasg Aberystwyth.
1961
Dechreuodd olygu ‘Awen Teifi’, cylchgrawn o farddoniaeth beirdd Ceredigion.
Cyhoeddwyd carol ganddo sef ‘Seren Nadolig’. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Mansel Thomas.
1963
Ebrill: Cyhoeddodd Cymdeithas Lyfrau Ceredigion ‘Anturiaethau Twm Siôn Cati: Y Ffordd Beryglus’.
1965
Tachwedd: Cyhoeddwyd ‘Anturiaethau Twm Siôn Cati: Ymysg Lladron’ gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion.
Cyhoeddwyd ‘Penillion y Plant’, sef casgliad o farddoniaeth gan T. Llew Jones. Mae’r gyfrol hon yn dal mewn print ac yn boblogaidd iawn.
1966
Cyhoeddwyd y nofel lofruddiaeth ‘Gwaed ar eu Dwylo’.
1968
Mehefin: Cyhoeddodd Cymdeithas Lyfrau Ceredigion ‘Anturiaethau Twm Siôn Cati: Dial o’r Diwedd’. Dyma’r drydedd a’r olaf o anturiaethau Twm Siôn Cati. Ailargraffwyd y cyfrolau hyn i gyd yn niwedd y 1990au.
1969
Cyhoeddwyd dau lyfr antur arall sef ‘Corn, Pistol a Chwip’ ac ‘Yr Ergyd Farwol’, stori dditectif.
1970
Roedd T. Llew yn un o’r rhai a arweiniodd ymgyrch lwyddiannus i weld Undeb Gwyddbwyll Cymru yn torri’n rhydd o Ffederasiwn Gwyddbwyll Prydain (fel yr oedd bryd hynny) ac yn ymuno â FIDE fel aelod annibynnol.
Ysgrifennodd un o lyfrau poced cyntaf Gwasg Gomer, sef ‘Y Corff ar y Traeth’, stori dditectif.
Cyhoeddwyd ‘Gormod o Raff’, llyfr yn seiliedig ar y gosb eithaf.
1971
Cyhoeddwyd y llyfr ‘Ofnadwy Nos’. Mae hi am un o ddirgelion y môr, llongddrylliad y Royal Charter ar greigiau Moelfre yn 1859 a beth ddigwyddodd i'w chargo o aur.
1973
Cyhoeddwyd y nofel ‘Un Noson Dywyll’ am y tro cyntaf
Cyhoeddwyd y nofel ‘Barti Ddu o Gasnewy’ Bach’ am y tro cyntaf. Ailgyhoeddwyd hi ers hynny o dan y teitl ‘Barti Ddu’ gan Wasg Gomer.
1974
Bu T. Llew yn rheolwr tîm Cymru yn Olympiad Gwyddbwyll Nice.
Rhyddhawyd ef am ddwy flynedd arall o’i waith ysgol.
Cyhoeddwyd ‘Cri’r Dylluan’, nofel am helyntion Beca, am y tro cyntaf.
1975
Ionawr: Cyhoeddwyd y nofel ‘Cyfrinach y Lludw’ am y tro cyntaf
Mehefin: Cyhoeddwyd y nofel ‘Tân ar y Comin’. Enillodd Wobr Tir na n’Og i T. Llew. Cyhoeddwyd cyfieithiad ohoni Carol Byrne Jones ‘Gipsy Fires’ gan Pont Books. Hefyd, cafodd ei gwneud yn ffilm yn 1995.
Rhagfyr: Cyhoeddwyd cyfrol - tair stori fer ‘Arswyd y byd!’ gan Wasg Gomer.
1976
Cyhoeddodd Gwasg Gomer ‘Rwy’i Am Fod...Yn Ddoctor’.
Ymddangosodd casgliad o bedair stori ‘Storïau Cwm-pen-llo’ yn ‘Pethe Plant’.
Ymddeolodd T. Llew ac am dymor wedyn bu’n gofalu am y Ganolfan Athrawon yn Felin-fach.
Cyhoeddwyd ‘Helicopter! Help! a Storïau Eraill’.
1977
Ebrill: Cyhoeddwyd storïau am arfordir Dyfed ‘Lawr ar Lan y Môr’ gan Wasg Gomer.
Awst: Cyhoeddodd Gwasg Gomer y nofel ‘Dirgelwch yr Ogof’ am y tro cyntaf. Cafodd hon ei gwneud yn ffilm i S4C yn 2002.
Tachwedd: Cyhoeddwyd llyfr amgylchedd i ysgolion a chartrefi (Cyfres astudio amgylchfyd - llyfr 1) ‘Dysgu Difyr’ gan Wasg Gomer.
23 Gorffennaf: Rhoddwyd gradd MA er anrhydedd i T. Llew gan Brifysgol Cymru, ac enillodd Wobr Mary Vaughan Jones am ei gyfraniad i lenyddiaeth plant.
1979
Pasg: Cafodd ddamwain go ddifrifol a’i gorfododd i orwedd mewn gwely yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth am ddeufis.
Cyhoeddwyd cyfrol o gerddi ‘Cerddi newydd i blant (o bob oed)’ gan Wasg Gomer.
Rhagfyr: Cyhoeddodd Gwasg Gomer ‘Slawer Dydd’ a oedd yn cynnwys llên gwerin.
Gwahoddwyd ef i fod yn aelod o’r Academi Gymreig, ond gwrthododd. Dywedodd ei fod o’r farn na ddylai llenorion ddod at ei gilydd i ffurfio ‘clique’ fel yna.
Cyhoeddwyd y gân ‘Carol’. T. Llew oedd yn gyfrifol am y geiriau a chyfansoddwyd yr alaw gan Eric Jones.
1980
Rhagfyr 31: Cyhoeddodd Gwasg Gomer lyfr ffeithiol ‘A Chwaraei di Wyddbwyll?’ gan T. Llew Jones ac Iolo Jones, ei fab, y llawlyfr cyntaf o’r fath yn yr iaith Gymraeg.
1981
Mehefin: Cyhoeddodd Gwasg Gomer ‘Cyfoeth Awen Isfoel’.
Cyhoeddwyd bywgraffiad Dewi Emrys gan Gyhoeddiadau Barddas.
T. Llew oedd Llywydd y Dydd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghastell Newydd Emlyn.
1986
Cyhoeddwyd ‘Ynys y Trysor’ sef addasiad Cymraeg o ‘Treasure Island’, Robert Louis Stevenson, gan Wasg Mynydd Mawr.
Cyhoeddodd Gwasg Carreg Gwalch Rhan 1 o gyfres Llyfrau Llafur Gwlad 75 – Llên Gwerin ‘Berw gwyllt yn Abergwaun: Hanes rhyfedd glaniad y Ffrancod yn Abergwaun yn 1797’.
1987
Cyhoeddwyd cyfrol o gerddi ‘Canu’n iach’.
Cyhoeddodd Gwasg Gomer addasiad Cymraeg (Christopher Maynard ‘Cyfres – Byd yr anhysbys’) ‘Popeth am Ysbrydion’.
Cyhoeddwyd addasiad Cymraeg (Kevin Crossley-Holland) ‘Storm' gan Wasg Gomer.
1989
20 Ebrill: Cyhoeddodd Gwasg Gomer ‘Lleuad yn Olau’, sef casgliad o straeon gwerin. Enillodd y gyfrol Wobr Tir na n-Og.
1992
Ionawr: Cyhoeddodd Gwasg Gomer lyfr ffeithiol T. Llew Jones a Dafydd Wyn Jones ‘Cyfrinach Wncwl Daniel: Hanes Rhyfedd Hen Feddyginiaeth Lysieuol’.
1993
Ionawr: Cyhoeddodd Gwasg Gomer ‘Cancer Curers – Or Quacks?: The Story of a Secret Herbal Remedy’ gan T. Llew Jones a Dafydd Wyn Jones sef cyfieithiad gan Dafydd Wyn Jones o ‘Cyfrinach Wncwl Daniel’.
Tachwedd: Cyhoeddwyd addasiad Cymraeg ‘Santa’ gan Cymdeithas Lyfrau Ceredigion.
Cyhoeddodd Cymdeithas Lyfrau Ceredigion gyfieithiad o lyfr gan Dyan Sheldon ‘Cân y Morfilod’.
1994
Ionawr: Cyhoeddwyd stori i blant ‘Y Gelyn ar y Trên’.
Ionawr: Cyhoeddodd Gwasg Cambria ‘Jona ym Mol y Morfil’.
Mawrth: Ailgyhoeddwyd ‘Anturiaethau Twm Siôn Cati: Y Ffordd Beryglus’ gan Wasg Gomer.
1997
Tachwedd: Cyhoeddwyd ‘Trysorfa T. Llew: Y Môr yn eu Gwaed’, sef detholiad Siân Lewis o rannau o nofelau cyffrous T. Llew Jones gan Wasg Gomer.
2001
Mai: Cyhoeddwyd ‘Lladron Defaid’ sef addasiad Cymraeg o ‘The Wild Morgans’ gan Alison Morgan gan Wasg Gomer.
2002
Awst: Cyhoeddodd Gwasg Gomer hunangofiant T. Llew Jones, sef ‘Fy Mhobol i’.
2004
Tachwedd: Cyhoeddwyd ‘Trysorfa T Llew Jones’ gan Wasg Gomer. Golygwyd gan Tudur Dylan Jones a darluniwyd gan Jac Jones.
2005
Mawrth: Pan oedd bron â bod yn 90 oed, enillodd y gadair yn Eisteddfod Cymdeithas Ceredigion.
Hydref: Cyhoeddwyd bocs yn cynnwys tair nofel enwog gan yr awdur nodedig: ‘Trysor Plasywernen’, ‘Trysor y Môr Ladron’, a ‘Tân ar y Comin’ o dan yr enw ‘Bocs Anrheg’ gan Wasg Gomer.
2006
Tachwedd: Cyhoeddwyd casgliad o hoff gerddi T.Llew Jones ‘Geiriau a Gerais’ gan Wasg Gomer.
2009
9 Ionawr: Bu farw T. Llew Jones.
2012
Cafodd ysgol gynradd newydd ym Mrynhoffnant ger Llandysul ei henwi yn Ysgol T. Llew Jones, ar ei ôl. Roedd yr ysgol yn cymryd lle pedair ysgol flaenorol sef Blaenporth, Glynarthen, Rhydlewis a Phontgarreg.
2013
Cyhoeddwyd ‘Y Pedwerydd Dyn Doeth’ sef stori i blant gan Wasg Gomer.
2015
Cyhoeddwyd ‘Y Fro Eithinog’, gan Wasg Gomer. Casgliad yw hwn o gerddi T. Llew Jones i ddathlu canmlwyddiant ei eni. Mae’n cynnwys detholiad o'i gyfrolau Sŵn y Malu a Canu'n Iach, y casgliad cyflawn o Penillion y Plant a rhai darnau na chafodd eu cyhoeddi o'r blaen.