1. Y Nod
Mae'r adnodd wedi ei ddatblygu ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 a 3 a bydd yn:
- cynorthwyo ysgolion sydd am wybod mwy am T. Llew Jones a'i waith gan gynnwys ei gefndir a'r dylanwadau arno, ei arddull a'i gynnwys a'r prif negeseuon yr oedd yn ceisio eu cyfleu;
- sbarduno dysgwyr i fwynhau gwaith T. Llew Jones, gan eu helpu i ymateb i'r gwaith ac ystyried yr hyn mae'n ei olygu i ni yn yr 21ain ganrif;
- cefnogi datblygu sgiliau siarad a gwrando, darllen ac ysgrifennu yng nghyd-destun ystyrlon a chyfoethog; a
- darparu adnodd a fydd yn waddol y tu hwnt i ddathliadau'r canmlwyddiant, ac a fydd ar gael i'w defnyddio dro ar ôl tro gan godi ymwybyddiaeth o waith T. Llew Jones.
- draws-gwricwlaidd ac yn cynnwys sgiliau trosglwyddadwy
Nodyn i’r athrawon: Mae’r nodiadau dysgu yn cynnwys ambell i gyfeiriad at y FfLlRh (ond nid mewn manylder llawn) a’r Rhaglenni Astudio Diwygiedig ar gyfer 2015 (gwefan Dysgu Cymru).
Mae angen i bob athro / athrawes benderfynu ar ba elfennau ac agweddau o’r Fframwaith Llythrennedd a’r Cwricwlwm Cymreig mae pob gweithgaredd yn ei gynnwys. Wedi’r cyfan, mae pawb yn cynllunio mewn moddau amrywiol.
2. Crynodeb ac Awgrymiadau ar sut i'w Defnyddio:
- Mae gan bob cyfnod allweddol ddeunyddiau penodol; mae hyn yn cynnwys cynlluniau i’r gweithgareddau, cyflwyniadau, gweithgareddau rhyngweithiol a thaflenni adnoddau ar gyfer dysgwyr.
- Mae cynlluniau gweithgareddau CA2 wedi cael eu hanelu i fod yn addas i ystod o oedran yn y cyfnod allweddol dan sylw –Blynyddoedd 3 i 6. Er hyn, mae’n bosib eu haddasu ar gyfer oedrannau eraill.
- Mae'n bosib defnyddio gwaith o Gyfnod Allweddol gwahanol hefyd, e.e. gellid defnyddio gwaith CA3 ar gyfer disgybl abl a thalentog yn CA2, ac i’r gwrthwyneb.
- Mae'r cynlluniau gweithgareddau wedi cael eu llunio fel eu bod yn cynnig man cychwyn i'r athrawon ac felly bydd yn bosib eu newid neu'u haddasu i fod yn haws neu'n anos i gyd-fynd ag anghenion y dosbarth neu'r ysgol.
- Mae'r cynlluniau gweithgareddau wedi cael eu llunio i gynnwys arferion da sy'n cynnig her feddyliol i ddisgyblion, ac sy'n rhoi cyd-destun cadarn o ran datblygu sgiliau siarad a gwrando, darllen ac ysgrifennu.
- Mae cysylltiadau â gwefannau perthnasol wedi eu cynnwys, gan gyfeirio at wybodaeth a gweithgareddau pellach sy'n berthnasol i T. Llew Jones a chymorth llythrennedd pellach.
- Mae atebion wedi’u darparu ar gyfer rhai o’r gweithgareddau, er enghraifft y gweithgareddau adalw gwybodaeth. Mae rhain i’w gweld yn y Cynlluniau Gweithgareddau ar gyfer CA2, ac mewn dogfen ar wahân ar gyfer CA3.
3. Cefnogi Cyrhaeddiad Dysgwyr ac Arfer Da mewn Llythrennedd Cymraeg
Bwriad yr adnoddau yw denu'r dysgwyr i werthfawrogi un o lenorion enwocaf Cymru, gan gefnogi gofynion y Cwricwlwm Cymraeg a Chymreig o fewn y Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae'r gwaith wedi cael ei adolygu a'i dreialu gan athrawon a dysgwyr ac wedi ei gynllunio i hyrwyddo'r arferion gorau wrth ddatblygu sgiliau llythrennedd y dysgwyr. Mae'r rhain yn cynnwys cyfle i'r dysgwyr:
- ymateb i ystod eang o ddeunyddiau, yn weledol, yn destun ac yn rhai sain;
- datblygu sgiliau siarad a gwrando drwy ddeunyddiau amrywiol sy'n herio'r meddwl;
- ysgrifennu i ymateb i dasgau darllen a hyrwyddo darllen fel modd o annog ysgrifennu;
- trefnu eu meddyliau drwy ddefnyddio deunyddiau graffeg, mapiau meddwl; ac
- ymchwilio i ffeithiau a gwybodaeth allweddol a fydd yn cefnogi llafaredd ac yn sicrhau cynnwys ar gyfer ysgrifennu.
Terminoleg - yr adnodd
Yn bennaf, defnyddir terminoleg sy'n cyd-fynd â'r Cwricwlwm Cenedlaethol o ran y pwnc Cymraeg. Mae'r isod yn esiampl o'r derminoleg a ddefnyddir yn gyson yn yr adnodd:
Cynllun Gweithgaredd
Mae'r Cynllun Gweithgaredd yn fan cychwyn sy'n awgrymu'r camau ar gyfer gwella sgiliau llythrennedd gan ddefnyddio'r adnoddau cysylltiedig ar T. Llew Jones.
Adnoddau i'r Athro
Deunyddiau y gellir eu defnyddio i gefnogi'r athro/athrawes a'r cynllun gweithgaredd, e.e. nodiadau cefndir, cyflwyniadau.
Adnodd i'r Dysgwyr
Deunyddiau atodol y gellir eu defnyddio i ddilyn ymlaen o wersi a chyflwyniadau.
Testun(au)
Mae hyn yn cyfeirio at esiamplau ysgrifenedig, llafar neu weledol o waith yr awdur.
Trefn a awgymir
Mae'r drefn a awgrymir yn enghraifft o'r camau y gellir eu dilyn yn ystod y gweithgaredd. Bwriadwyd y camau fel bod modd eu dilyn naill ai'n llawn neu'n rhannol, a gellir eu haddasu i gyd-fynd ag anghenion grŵp neu flwyddyn unigol.