Cyfarwyddiadau
Llenwch fylchau’r brawddegau gan ddefnyddio'r idiomau/priod - ddulliau isod.
Atebion posib:
- nerth fy nhraed
- yn bendramwnwgl
- fydd hi ddim yn dda arnaf i
- ar unwaith!
- yn wyn fel sialc
- wedi ei hoelio ar
- i fyw fy llygaid
- ar bigau’r drain
1. Roedd fy ffrind yn meddwl ei fod wedi gweld ysbryd, felly roedd .
2. "Ewch allan " meddai Mr Jones.
3. Roedd Mrs Hughes yn meddwl fy mod i’n dweud celwydd, felly syllodd wrth ofyn cwestiynau i mi.
4. Er imi redeg , nid fi enillodd y ras.
5. Roedd Eleri cyn y prawf.
6. Cafodd Carys ei gwthio gan rywun, felly syrthiodd i lawr y grisiau.
7. Gwell i mi gofio pen-blwydd Mam, neu .
8. Roedd sylw Bob, y ci, y fisged yn fy llaw.