Traeth Cefn Sidan - Defnyddio ‘a/ac’ ac ‘ond’


Cyfarwyddiadau

Mae T. Llew Jones yn y darn hwn yn gwneud llawer o ddefnydd o’r geiriau bach ‘a/ac’ ‘ond’.

Weithiau maen nhw’n cael eu defnyddio ar ganol brawddeg, ac mae’n bosib eu defnyddio ar ddechrau brawddeg hefyd.

OND

Mae ‘ond’ yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno rhywbeth sy’n wahanol neu’n cyferbynnu â’r hyn sydd newydd gael ei ddweud, e.e.

Mae hi’n bwrw glaw, ond rwy’n sych o dan yr ymbarél.

A neu AC

Mae ‘a’ neu ‘ac’ yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno rhywbeth sy’n ychwanegu at yr hyn sydd newydd gael ei ddweud. Fel arfer does dim cyferbyniad yma, ac mae’r ail ran yn dilyn yn rhesymegol o’r rhan gyntaf.

Mae’r haul yn tywynnu, ac mae’r pentref i gyd yn gynnes.

Llenwch y bylchau isod gyda’r dewis cywir – ‘ac’ neu ‘ond’.

  • Mae’n dywyll mae arna i ofn.
  • Mae Anti Glen bron yn gant mae hi’n cerdded i’r dref bob dydd.
  • Collodd Siân ei harian cinio roedd hi’n llwgu erbyn amser te.
  • Ni weithiodd Dafydd ryw lawer llwyddodd i basio’r arholiad.
  • Edrychais drwy’r llyfr i gyd yn fanwl ni lwyddais i weld yr ateb.
Da iawn, rydych wedi ateb y cyfan yn gywir!
Gwirio