Cyfarwyddiadau
Ydych chi wedi gweld yr holl atalnodi sy’n digwydd yn y stori hon?
Mae’r gwahanol atalnodau yn rhoi cymorth i ni ddeall y gwaith.
Meddyliwch sut byddai darn heb unrhyw atalnod yn edrych mi fyddai’n sicr och drysu chi gan na fyddech chi’n gwybod lle mae un frawddeg yn dechrau ar llall yn gorffen maen anodd deall darnau fel hyn felly’r neges yw cofio atalnodi bob tro rydyn ni'n ysgrifennu.
Allwch chi lusgo’r atalnodau i’r lle cywir yn y tabl?
- !
- ?
- .
- ,
- ""
Yna llusgwch yr eglurhad i’r lle cywir:
- I’w rhoi o amgylch rhywbeth sy’n cael ei ddweud
- I’w ddefnyddio i nodi cwestiwn
- Nodi rhywbeth doniol neu annisgwyl
- Nodi diwedd brawddeg
- Rhannu brawddeg yn ddarnau llai
Cofiwch y gallwch chi ddefnyddio hanner colon yn eich gwaith hefyd. Mae hanner colon yn gryfach na choma, ond nid mor gryf ag atalnod llawn!
- coma/atalnod
- gofynnod
- dyfynodau
- atalnod llawn
- ebychnod