Dewrder Merch - Treiglo’n feddal ar ôl arddodiaid


Cyfarwyddiadau

‘i daro’, ‘i ben’, ‘i geisio’, ‘heb wneud’, ‘o don i don’

Ydych chi wedi sylwi bod treiglad ar ôl y geiriau bach, i, heb, o?

Arddodiaid ydy’r enw ar y geiriau bach hyn.

Mae 12 arddodiad lle mae treiglad meddal yn dilyn:

  • am
  • dan
  • wrth
  • hyd
  • ar
  • dros
  • gan
  • i
  • at
  • drwy
  • heb
  • o

Mae camgymeriad ym mhob un o’r brawddegau hyn:

e.e. Mae Dafydd am cael parti pen-blwydd i’w gofio. ✘

Mae Dafydd am gael parti penblwydd i’w gofio. ✔

TASG: Cywirwch y brawddegau...

  • 1.
  • 2.
  • 3.
  • 4.
  • 5.
  • 6.
Da iawn, rydych wedi ateb y cyfan yn gywir!
Gwirio