Cyfarwyddiadau
‘Fe waeddodd gwynt yr hydref...’
Yma mae T. Llew Jones yn dweud fod y gwynt wedi ‘gweiddi’!
Personoliad yw hwn. Ystyr personoliad yw bod peth yn gwneud yr hyn y mae person fel arfer yn ei wneud.
e.e. môr yn poeri ar y graig
Dyma’r patrwm:
- enw
- yn
- berfenw
Dyma beiriant personoliad!
Tynnwch y fraich i greu personoliad. Fe fydd rhai yn dda ac annisgwyl, ac eraill yn rhai sydd wedi bod yn barod ac felly’n rhai i’w hosgoi, e.e. haul yn gwenu
TASG:
Beth am i chi gofnodi’r 3 phersonoliad gorau y mae’r peiriant yn eu creu? Defnyddiwch nhw mewn paragraff i ddisgrifio diwrnod allan yn yr awyr agored.