Cyfarwyddiadau
‘yr olygfa orau’
Mae gwahanol raddau i ansoddeiriau.
Yr un gyntaf yw’r radd GYSEFIN, sef yr ansoddair gwreiddiol, e.e. GLÂN.
Yr ail radd yw’r radd GYFARTAL, lle rydyn ni’n dweud bod yr ail beth union yr un peth â’r peth cyntaf, e.e. yr un mor lân. CYN LANED
Y drydedd radd yw’r radd GYMHAROL lle rydyn ni’n cymharu â’r ansoddair gwreiddiol, e.e. mae rhywbeth yn fwy glân. GLANACH
Yn olaf, mae’r radd EITHAF, sef pan fyddwn ni’n dweud nad oes posib cael rhywbeth mwy glân. GLANAF
Cofiwch eich bod yn treiglo’n feddal ar ôl cyn... (ond nid yw geiriau sy’n dechrau gyda ll a rh yn treiglo ar ôl cyn)
Allwch chi orffen y tabl?
- CYSEFIN
- glân
- oer
- prysur
- trwm
- poeth
- gwan
- trist
- CYFARTAL
- cyn laned
- cyn oered
- cyn brysured
- cyn drymed
- CYMHAROL
- glanach
- oerach
- prysurach
- trymach
- EITHAF
- glanaf
- oeraf
- prysuraf
- trymaf
Mae rhai ansoddeiriau’n dilyn trefn ychydig yn wahanol:
Gwasgwch y botwm, a bydd y geiriau mewn glas yn diflannu. Allwch chi eu teipio’n ôl yn gywir?
- CYSEFIN
- da
- mawr
- hir
- bach
- isel
- CYFARTAL
- cystal
- cymaint
- cyn hired
- cyn lleied
- cyn ised
- CYMHAROL
- gwell
- mwy
- hwy
- llai
- is
- EITHAF
- gorau
- mwyaf
- hwyaf
- lleiaf
- isaf