Cwm Alltcafan - Berfau gorchmynnol


Cyfarwyddiadau

‘Ewch da chi i Gwm Alltcafan...’

Mae T. Llew Jones yn defnyddio’r ferf ‘ewch’ yn aml yn y gerdd, gan ein hannog ni i fynd i wahanol fannau, yn arbennig i Gwm Alltcafan.

Gan fod y ferf yn ein ‘gorchymyn’ i fynd, mae’n cael ei galw’n ‘ferf orchmynnol’

Allwch chi weld rhagor o ferfau gorchmynnol yn y gerdd?

Teipiwch nhw yn y blychau isod:

Da iawn, rydych wedi cwblhau’r gêm!
Gwirio


Os ydyn ni’n defnyddio’r ffurf ‘ti’, rydyn ni fel arfer yn gorffen y ferf orchmynnol gydag ‘a’

Cofio → Cofia

Os ydyn ni’n defnyddio’r ffurf ‘chi’, rydyn ni fel arfer yn gorffen y ferf orchmynnol gydag ‘wch’

Cofio → Cofiwch

Teipiwch y ffurf gywir yn y blychau

  • Berfenw
  • cerdded
  • anghofio
  • gweithio
  • teithio
  • cyflymu
  • gyrru
  • -a
  • -wch
Da iawn, rydych wedi cwblhau’r gêm!
Gwirio

Mae rhai berfau yn afreolaidd e.e.

  • Berf
  • dweud
  • mynd
  • Berfenw
  • dwed; dwedwch
  • dos/cer; ewch/cerwch