Cyfarwyddiadau
Mae nifer o ansoddeiriau ar goll yn y gerdd yma. Fedrwch chi roi'r ansoddeiriau yn ôl yn y mannau cywir?
Atbeion posib: glas, prysur, dlos, fawr, llwm, lefn, loer-olau, du, hynafol,
Y Lleidr Pen-ffordd
Ar ambell nos
A'r gwynt yn nhwll y clo,
A sŵn moduron
Yn ddistaw iawn ers tro,
Fe glywch, ond ichi wrando,
Sŵn ceffyl yn mynd heibio
Dros heol fawr y fro.
A phwy yw'r marchog hwnnw
Sy'n mynd mor hwyr y nos
Dros lawer nant ac afon
A thros y waun a'r rhos?
Wel, Twm Siôn Cati'i hunan
Â'i glogyn
yn hofran
O dan y lleuad
.
Mae'n aros ar y groesffordd
Yng nghysgod coed y Plas;
Fe rydd ei lawr ar bistol
A thyn ei gleddyf
Ac yno mae'n clustfeinio,
Am sŵn coets
Llandeilo
Yn mynd drwy'r cwm ar ras.
Tu ôl i'r coed
Mae'r Plas yn adfail
,
Rhy bell i'r Sgweier heno
I ofni castiau Twm.
Ac ni ddaw coets Llandeilo
 charnau'r meirch yn fflachio
Byth mwy i fyny'r cwm.
Carlama'r ceffyl ymaith
Â'r marchog ar ei gefn,
Mae sŵn y carnau'n darfod
Ar lawr y briffordd
.
Ond gwn, ond ichi wrando
Ar ambell nos fel heno -
Y clywch chi'r sŵn drachefn.