Cyfarwyddiadau
Roedd cerddoriaeth yn bwysig iawn yn oes y môr-ladron.
Enw’r gân yr oeddent yn ei chanu oedd sianti. Roedd y sianti yn rhoi hwb i’r morwyr ar fordaith hir ac yn helpu’r morwyr i gydsymud wrth iddynt weithio’n galed ar fwrdd y llong.
Rydym yn clywed Harri Morgan yn canu sianti trwy gydol y nofel.
Mae’r sianti yma’n adnabyddus iawn. Ei henw yw: ‘What shall we do with the drunken sailor?’.
Gwrandewch ar yr enghraifft yma sy’n cynnwys penillion Saesneg: