Cyfarwyddiadau
Llusgwch y llinellau sydd yn y golofn chwith draw i’r llefydd gwag yn y golofn dde er mwyn cwblhau’r gerdd.
Y llinellau coll
A dŵr yr afon fawr mor fudr?
Pam mae sgyfarnog y rhos mor chwim,
Ac weithiau fel cryman tenau iawn?
Maen nhw’n gwneud i ni holi – holi o hyd.
Ac yn wir i chi – mae e’n gwestiwn mawr...
Pam y mae dail y gwanwyn mor wyrdd,
Pam y mae’r wylan sy’n hedfan fry
A pham y mae cynffon gan ambell gi,
Pam rwyf fi weithiau’n dda a charedig,
Cwblhewch y gerdd
Pam y mae’r lleuad weithiau’n llawn,
........................................................................

Mor rhyfeddol o wyn – a’r frân mor ddu?
........................................................................
A’r crwban bron methu â symud dim?
Pam mae dŵr y nant mor glir â’r gwydr,
........................................................................
........................................................................
A dail yr hydre’n frown hyd y ffyrdd?
........................................................................
A dim gan un arall, dwedwch i mi?
Mae ’na gymaint o bethau od yn y byd –
........................................................................
Ond dyma’r cwestiwn olaf yn awr,
........................................................................
........................................................................
Ac weithiau’n ddrwg ac yn felltigedig?